Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar ymweliadau Gwasanaethau Mamolaeth

Diweddarwyd Awst 2023

Yn dilyn cyfyngiadau ymweld â Covid 19, mae ein gwasanaeth mamolaeth bellach wedi ailgyflwyno ymweliadau yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd.

Ward esgor – Caniateir i ddau bartner geni ymweld yn yr ystafell esgor ganolog. Ni chaniateir unrhyw ymwelwyr eraill ar unrhyw adeg, gan gynnwys plant. Wrth fynd i mewn ac allan o'r ward ar unrhyw adeg defnyddiwch y gel llaw wrth y drysau. Anogir defnyddio gel dwylo a golchi dwylo ar bob cyfle.

Uned Geni'r Bae - Caniateir i ddau bartner geni ymweld yn Uned Geni'r Bae a bydd brodyr a chwiorydd hefyd yn cael ymweld yn dilyn yr enedigaeth. Defnyddiwch gel llaw neu golchwch eich dwylo wrth fynd i mewn ac allan a phob cyfle posibl.

Ward 19 Ward cynenedigol - Un partner geni rhwng 10yb ac 8yp. Ymweld, gan gynnwys brodyr a chwiorydd, rhwng 4yp a 6yp. Dim mwy na phedwar ymwelydd ar y tro fesul gwely. Gall ymwelwyr newid yn y cyfnod hwn o ddwy awr i ganiatáu ar gyfer gwahanol ymwelwyr, ond dim ond brodyr a chwiorydd all ymweld - ni chaniateir unrhyw blant eraill.

Mae’n bosibl y caniateir i bartneriaid geni aros dros nos os yw’r esgor yn mynd yn ei flaen, ond bydd hyn yn cael ei benderfynu ar sail unigol a’i drafod gyda’r fenyw a’i phartner geni. Defnyddiwch gel llaw neu golchwch eich dwylo wrth fynd i mewn ac allan a phob cyfle posibl.

Uned Derbyn Cyn Geni AAU - Un partner geni i fynd gyda merched i'r uned i'w hasesu ar amser.

Ward 20 ward ôl-enedigol - Un partner geni rhwng 10yb ac 8yp. Ymweld, gan gynnwys brodyr a chwiorydd, rhwng 4yp a 6yp. Dim mwy na phedwar ymwelydd ar y tro fesul gwely. Gall ymwelwyr newid yn y cyfnod hwn o ddwy awr i ganiatáu ar gyfer gwahanol ymwelwyr ond dim ond brodyr a chwiorydd sy'n gallu ymweld. Ni chaniateir unrhyw blant eraill.

Ni fydd partneriaid geni yn cael aros dros nos oni bai bod menywod neu eu babanod yn sâl. Penderfynir ar hyn fesul achos a'i drafod gyda menywod a phartneriaid geni. Defnyddiwch gel llaw neu golchwch eich dwylo wrth fynd i mewn ac allan a phob cyfle posibl.

Gwybodaeth ychwanegol bwysig

Sylwch na chaniateir i blant fynd i apwyntiadau clinig cyn geni yn yr ysbyty nac i apwyntiadau sgan uwchsain. Siaradwch â'ch bydwraig cyn eich apwyntiad os ydych yn rhagweld unrhyw anawsterau gyda hyn.

Byddem yn dal i ofyn i bartneriaid geni/ymwelwyr aros gartref os oes ganddynt Covid 19 neu os ydynt wedi datblygu symptomau o Covid 19 neu os ydynt yn sâl o gwbl.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.