Skip yn syth i'r wybodaeth ddiweddaraf i ymwelwyr
Yn dilyn cynnydd mewn heintiau Covid yn ein cymunedau, yn anffodus rydym wedi gorfod ailgyflwyno gwisgo masgiau wyneb a gorchuddion wyneb yn orfodol ar draws ein safleoedd.
Rhaid i gleifion ac ymwelwyr nawr wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus yn ein hysbytai. Mae'r rhain yn cynnwys coridorau, bwytai a chaffis.
Bydd gofyn i ymwelwyr wisgo mwgwd wyneb llawfeddygol ar wardiau ac mewn mannau clinigol eraill.
Adolygir y sefyllfa yn wythnosol. Diolchwn ichi am eich cydweithrediad a'ch dealltwriaeth barhaus.
(o Hydref 2022)
Gwyddom fod ymwelwyr yn bwysig ac o fudd i iechyd a lles cleifion, ond rydym hefyd yn cydnabod bod risgiau, yn anffodus, yn parhau i fod i’r rhai sy’n agored i niwed yn ein gofal.
Mae'r manylion ymweld isod yn canolbwyntio'n bennaf ar safleoedd acíwt ysbytai Treforys, Singleton a Chastell Nedd Port Talbot, ac Ysbyty Gorseinon, mewn perthynas â gwasanaethau oedolion.
Mae gennym hefyd drefniadau ymweld penodol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a threfniadau lleol ar gyfer Newyddenedigol a Phediatreg ac Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu. Cliciwch ar y dolenni isod i weld y rhain.
Os ydych yn dod at gleifion allanol, neu am apwyntiad diagnostig, yna dilynwch y gofynion a nodir yn eich llythyr apwyntiad.
Mae'n dal yn bwysig iawn bod pob cam yn cael ei gymryd i atal lledaeniad haint o fewn ysbytai a chyda chefnogaeth staff, cleifion ac ymwelwyr; gallwn leihau'r risgiau trwy ddilyn y camau isod.
Lle ceir achosion o haint, ni chaniateir ymweliadau arferol a dim ond ymweliadau â phwrpas y byddant yn cael eu cynnal a'u cytuno ymlaen llaw gyda'r Nyrs â Gofal.
Mae agwedd dosturiol yn hanfodol er mwyn cydbwyso aelodau agos o'r teulu (gan gynnwys plant) ac eraill sy'n bwysig i'r person sy'n marw allu treulio amser gyda nhw a dweud hwyl fawr ond gyda'r angen i reoli'r risg o haint i bawb o hyd.
Gall hefyd fod yn arbennig o bwysig derbyn cefnogaeth ysbrydol, emosiynol neu grefyddol ar yr adeg hon. Gall y Chaplin gofal iechyd sy'n rhan o'r tîm amlddisgyblaethol ddarparu hyn.
Os ydych chi'n ofalwr neu'n helpu gydag adsefydlu, gan gynnwys cefnogi hydradu a bwydo cleifion, bydd y wardiau'n cytuno ar gynllun presenoldeb unigol gyda chi.
Sylwch os yw eich plentyn yn cael ei asesu ar yr uned asesu pediatrig, dim ond rhieni/gofalwyr a ganiateir.
Mae trefniadau ymweld penodol ar waith ar gyfer cyfleusterau Iechyd Meddwl, Mamolaeth a Newyddenedigol.
Rydym yn adolygu ymweliadau ysbyty yn rheolaidd, a chyn gynted ag y teimlwn ei bod yn ddiogel i wneud hynny byddwn yn lleddfu’r cyfyngiadau hyn wrth inni sylweddoli bod ymweld yn bwysig i gleifion a’u teuluoedd.
Sylwch, ers 1 Mawrth 2021, ei bod bellach yn anghyfreithlon i ysmygu ar dir ein hysbytai.