Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar ymweliadau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

Croeso

Ymweld â chleifion iechyd meddwl ac anableddau dysgu - diweddarwyd Medi 2022

Mae ymweliadau yn parhau i fod trwy apwyntiad yn unig, am awr, ddwywaith yr wythnos mewn unrhyw ward neu wasanaeth nad yw ar gau i ymweld oherwydd COVID. Rhaid i ymwelwyr sy'n cyrraedd ar gyfer ymweliadau a drefnwyd ymlaen llaw gysylltu â'r derbynfeydd canlynol yn gyntaf cyn mynd i ymweld â'u perthynas:

  • Ysbyty Cefn Coed: Cysylltwch â'r Ward berthnasol cyn ymweld â'ch perthynas
  • Ward F Ysbyty Castell Nedd Port Talbot: cysylltwch â'r Ward cyn ymweld â'ch perthynas
  • Ysbyty Tonna: Cysylltwch â'r Ward berthnasol cyn ymweld â'ch perthynas
  • Clinig Caswell a Taith Newydd yng Nglanrhyd: Cofrestrwch yn y dderbynfa cyn ymweld â'ch perthynas
  • Unedau Anabledd Dysgu: Cysylltwch â'r uned berthnasol cyn ymweld â'ch perthynas

Mae ymweliadau yn parhau i ddigwydd mewn mannau ymweld dynodedig yn unig, gan ddilyn prosesau ar gyfer hylendid dwylo, PPE a phellter cymdeithasol. Ni ddylai ymwelwyr ymweld os ydynt yn Covid-19 positif, yn dioddef o symptomau Covid-19 neu wedi cael cysylltiad ag achos positif o Covid-19 yn ystod y 10 diwrnod diwethaf.

Dylid cadw pellter cymdeithasol gymaint ag sy'n ymarferol bosibl ac osgoi cyswllt corfforol.

  • Rhaid gwisgo masgiau wyneb ac unrhyw offer amddiffynnol arall y bernir ei fod yn briodol ar gyfer ardaloedd unigol - bydd staff yn cynghori lle bo angen.
  • Rhaid i ymwelwyr ddilyn hylendid dwylo llym a sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo neu ddefnyddio gel alcohol cyn, ar ôl ac yn ystod ymweliad.

Lle bynnag y bo’n ymarferol bosibl ac i leihau’r risg o drosglwyddo Covid-19, bydd ymweliadau’n parhau i ddigwydd mewn ardaloedd awyr agored.

Bydd ymweliadau yn cael eu hagor er mwyn caniatáu i wahanol berthnasau/ymwelwyr ymweld. Felly gall unrhyw gyfuniad o 2 ymwelydd ymweld am awr ddwywaith yr wythnos.

Bydd yn ofynnol i gleifion sy’n arddangos symptomau Covid-19 neu sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 ynysu am 10 diwrnod ac ni fyddant yn gallu cael ymweliadau yn ystod y cyfnod hwn.

Lle mae amgylchiadau unigol lle mae angen ystyried ymweld wrth erchwyn y gwely, cynyddu amlder ymweld neu gynyddu nifer yr ymwelwyr ar unrhyw un adeg, gwneir hynny ar sail asesiad risg unigol. Er enghraifft, ar gyfer unigolion sydd ar ddiwedd eu hoes neu lle mae lefel y trallod i'r unigolyn yn golygu bod ymweld â erchwyn gwely neu fwy o ymweliadau er eu lles gorau. Bydd yr amgylchiadau eithriadol ac unigol hyn yn cael eu cefnogi.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.