Neidio i'r prif gynnwy

Cyrraedd ein Canolfannau Brechu Lleol

Oriau agor LVCs

Hyd at ddiwedd mis Chwefror 2024 bydd ein LVCs ar agor Dydd Llun, Dydd Mercher a Dydd Gwener, 9:00yb – 4:30yp.

O Ddydd Llun 4ydd Mawrth tan ddiwedd mis Mawrth 2024 bydd ein hamseroedd agor a'n dyddiau LVC yn newid.

Bydd ein LVC Aberafan nawr ar agor Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Sadwrn, 9:30yb – 5:30yp.

Bydd ein LVC Gorseinon nawr ar agor Dydd Llun, Dydd Mercher a Dydd Gwener, 9:30yb – 5:30yp.


Canolfan Siopa Aberafan

Uned 30D East Mall, Port Talbot, SA13 1PB.

Ychydig oddi ar Gyffordd 41 yr M4 ym Mhort Talbot.

Mae'r llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus canlynol hefyd yn mynd heibio i'r ganolfan, Bws: X1, Trên: Gorsaf Port Talbot.

Sut i ddod o hyd i ni

Bws a thacsi

Os byddwch yn cyrraedd ar fws neu dacsi ewch i mewn trwy fynedfa South Mall, sef y fynedfa sydd agosaf at yr orsaf fysiau a'r safle tacsis.

Os ydych yn dod allan o’r orsaf fysiau bydd angen i chi droi i’r dde tuag at y fynedfa hon. Mae’n syth ymlaen os ydych chi wedi cael eich gollwng yn y safle tacsis.

Unwaith y byddwch chi drwy'r drysau i'r ganolfan siopa, ewch ar hyd South Mall a throwch i'r dde yn siop ddillad PEP&CO.

Fe welwch arwydd ar gyfer B&M Bargains o'ch blaen. Parhewch ar hyd y llwybr hwn, sef East Mall, gan basio B&M ar y dde i chi. Ein canolfan frechu yw'r uned nesaf ar y dde rhwng B&M a drysau mynediad pont yr afon.

Car

Os ydych chi’n dod mewn car mae’n well peidio â pharcio ym maes parcio aml-lawr y ganolfan siopa gan fod hwn yr ochr arall i’n canolfan frechu.

Rydym yn argymell parcio ar ochr Tesco i’r afon a defnyddio pont yr afon gyferbyn â Swyddfa’r Post a Specsavers i gyrraedd y ganolfan.

Mae ein LVC ar eich chwith wrth i chi ddod drwy'r drysau i mewn i'r ganolfan.

O goffi Costa

Os cewch eich hun yn siop goffi Costa, ewch i'r chwith o'r caffi sydd i gyfeiriad Wilko, a throwch i'r chwith lle daw Wilko i ben.

Fe welwch B&M ar y dde i chi. Daliwch ati a'n canolfan frechu yw'r uned nesaf ar y dde heibio B&M.

Map o Ganolfan Siopa Aberafan

 

Canolfan Gorseinon Centre 

Millers Drive, gyferbyn ag Aldi, Gorseinon, Abertawe, SA4 4QN.

Cyfarwyddiadau

O'r M4 yn mynd i Gaerfyrddin. Gadewch yr M4 ar Gyffordd 47 (arwydd Abertawe W) yna ar y gylchfan, cymerwch y 3ydd allanfa i'r A48 (arwydd Gorseinon, Penllergaer).

Parhewch ymlaen ar yr A48, gan ddod i mewn i Benllergaer, ar y gylchfan cymerwch yr 2il allanfa i Heol Gorseinon - A4240 (arwydd Gorseinon)

Wrth y gylchfan fach, ewch ymlaen i Gorseinon Road - A4240.

Ar y gylchfan nesaf cymerwch yr ail droad i Heol Gorseinon - A4240 (arwydd Gorseinon) a pharhewch ymlaen nes i chi gyrraedd y goleuadau traffig ger tafarn Bryngwyn.

Trowch i'r chwith wrth y goleuadau traffig, gan fynd yn syth ymlaen drwy'r gylchfan a throwch i'r dde i faes parcio'r Ganolfan.

Map yn lleoli Canolfan Gorseinon Centre

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.