Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae rhai pobl yn cael eu brechu mewn MVC a rhai gan eu meddyg teulu?

Rydym yn rhedeg nifer o ffrydiau brechu o fewn y rhaglen gyffredinol, ac yn rhannu'r gwaith, gan ddefnyddio ein holl adnoddau GIG lleol. Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio mewn partneriaeth agos â meddygon teulu, ond nid oes gan feddygon teulu yr adnoddau i frechu eu holl gleifion, ac nid yw'r Canolfannau Brechu Torfol (MVCs) sy'n cael eu rhedeg gan y bwrdd iechyd yn addas i bawb, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, sydd yn aml gall fod yn well eu byd cael eu dosau yn eu meddygfa leol neu yn ystod ymweliad cartref.

Bellach mae gennym hefyd ganolfan frechu symudol o'r enw Immbulance, sy'n brechu pobl mewn grwpiau anodd eu cyrraedd ac ardaloedd mwy anghysbell.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.