Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp 6 - pobl â chyflyrau iechyd sylfaenol, gofalwyr di-dâl cymwys, pobl ag anableddau dysgu a salwch meddwl difrifol

Bydd y mwyafrif o bobl yng ngrŵp 6 yn cael eu brechu gan eu meddygfa. Ond os ydych wedi'ch cofrestru gyda Phractis Meddygol Abertawe, Brunswick, Nicholl Street, Prifysgol, Dyfed Road, Uplands & Mwmbwls a meddygfeydd Mount, cewch eich galw i Ganolfan Brechu Torfol (MVC.)

Efallai y bydd rhai cleifion sydd wedi'u cofrestru â meddygfeydd Grŵp Meddygol Fforestfach , Gerddi Victoria a Kingsway hefyd yn cael eu galw i MVC. Bydd brechiadau yn digwydd rhwng Mawrth 8fed ac Ebrill 19eg.

Ewch i'r dudalen hon i ddarganfod mwy am sut y gall gofalwyr di-dâl gael y brechiad.


DIWEDDARIAD 07/04/2021: Os ydych yn 50+ oed ac yn dal heb dderbyn eich gwahoddiad cyntaf, neu wedi gwrthod a newydd newid eich meddwl bellach, e-bostiwch: sbu.covidbookingteam@wales.nhs.uk.

Gofalwyr di-dâl - os ydych chi eisoes wedi gwneud cais ond heb glywed eto, peidiwch â phoeni, byddwn yn cysylltu â chi cyn bo hir.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.