Oherwydd pwysau eithriadol a digynsail, ni allwn gyfieithu a diweddaru pob tudalen ar yr adeg hon. Fodd bynnag, mae'r tudalennau hyn - Coronafeirws COVID-19 a COVID-19: newidiadau dros dro i rai o'n gwasanaethau - yn cael eu diweddaru'n rheolaidd.

Ap Covid-19 y GIG

hysbyseb ar gyfer nodweddion ap Covid-19 GIG

Sut mae cael gafael ar ap Covid-19 y GIG?

Mae'r ap ar gael ar gyfer ffonau smart yn unig - nid tabledi, smartwatches na dyfeisiau eraill.

I ddechrau, ewch i Google Play neu App Store Apple a chwiliwch am "NHS Covid-19". Yn anffodus does dim fersiwn Gymraeg ar gyfer y tudalenau trydydd parti yma. 

Rhaid bod gan y peiriannau Android 6.0 (a ryddhawyd yn 2015) neu iOS 13.5 (a ryddhawyd ym mis Mai 2020) a Bluetooth 4.0 neu uwch. Mae hynny'n eithrio'r iPhone 6 a fersiynau hŷn o beiriannau Apple.

Os ydych chi eisiau…

  • gwybod eich lefel risg
  • archebu profion COVID
  • helpwch ni i gadw Cymru yn ddiogel

Lawrlwythwch yr #NHSCOVID19app heddiw