Mae bob amser yn straen pan fyddwch chi neu un o'ch anwyliaid yn cael eu derbyn i'r ysbyty, a thra bydd COVID-19 yn parhau i effeithio ar ein cymunedau, bydd gennych chi fwy o bryderon a chwestiynau am sut rydyn ni'n cadw ein cleifion yn ddiogel wrth eu helpu i wella.
Ar y dudalen hon, rydyn ni wedi rhoi llawer o wybodaeth at ei gilydd am yr hyn y gall ein cleifion a'u teuluoedd ei ddisgwyl os bydd yn rhaid iddynt aros gyda ni yn ystod y misoedd nesaf.
Mae'r mesurau a'r rheolau hyn wedi'u rhoi ar waith ar ben ein rheolau llym arferol ar gyfer atal heintiau, er mwyn amddiffyn ein cleifion rhag y Coronafeirws a helpu i atal yr haint rhag lledaenu.
Diweddarwyd y dudalen: Ionawr 5, 2021