Neidio i'r prif gynnwy

Lles seicolegol

Lles seicolegol

Os ydych wedi bod yn yr ysbyty o ganlyniad i COVID-19, gallai gael effaith ar eich lles seicolegol. Gall hyn fod yn negyddol, ond gwelwyd tystiolaeth ei fod yn gadarnhaol hefyd.

Efallai eich bod wedi cael profiadau o gael eich gwahanu oddi wrth eich anwyliaid tra oeddech chi yn yr ysbyty, neu efallai i chi fod yn ddryslyd neu'n anymwybodol tra oeddech chi'n cael eich trin. Gall y pethau hyn hefyd gael effaith ar les seicolegol.

Mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gallwch chi helpu i reoli/gwella eich hwyliau. Rydym wedi amlinellu rhai ffyrdd isod, ond mae pawb yn wahanol ac efallai bod gennych eich dewisiadau eich hun.

Teimlo'n bryderus

Rydyn ni'n gwybod bod hwn yn gyfnod o ansicrwydd ac mae'n naturiol teimlo'n bryderus. Gall pryder gael ei amlygu mewn sawl ffordd yn gorfforol ac yn feddyliol, gall hyn gynnwys calon-guriadau,  tyndra yn y cyhyrau, problemau gyda'r stumog, gor-anadlu, meddyliau pryderus, cwsg gwael a llawer o symptomau eraill.

Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau pryder:

  • Nodwch beth sy'n sbarduno'ch pryder. Gofynnwch i chi eich hun: “Am beth rydw i'n bryderus?" A oes unrhyw beth yn benodol yr ydych yn poeni amdano?  Efallai na allwch nodi'r union beth a'ch bod yn teimlo'n bryderus yn gyffredinol.
  • Heriwch eich meddyliau. Mae ein meddwl yn bwerus iawn ac rydym yn aml yn neidio i gasgliadau. Edrychwch ar y dystiolaeth am yr hyn rydych chi'n ei feddwl.  Ai dyma'r unig senario posibl? A oes dewisiadau eraill? Efallai na fydd cynddrwg ag yr ydych chi'n ei feddwl.
  • Canolbwyntiwch ar rywbeth arall. Mae'n dda gwneud pethau sy'n tynnu eich sylw oddi ar eich meddyliau.  Gall fod yn dda gwneud unrhyw beth y byddwch chi'n ymgolli ynddo.
  • Ymlaciwch. Dangoswyd bod ymlacio a meddylgarwch yn lleihau pryder ac yn helpu i reoli'r hwyliau.

Ymosodiadau panig

Os ydych chi'n teimlo'n bryderus bydd eich anadl yn cyflymu a gall hyn achosi pwl o banig. Mae pwl o banig yn deimlad llethol o berygl/straen a achosir yn aml gan sbardun. Pan fyddan nhw dan straen, mae ein cyrff yn ymateb er mwyn ein amddiffyn ein hunain rhag y perygl y credwn ni sydd yno. Ymateb 'ymladd neu ffoi' neu 'rewi' yw hwn pan fydd ein cyrff yn rhyddhau adrenalin. Fel arfer pan fydd pyliau o banig yn digwydd, nid oes unrhyw berygl corfforol. Mae pawb yn profi pyliau o banig mewn ffordd wahanol ond teimlad cyffredin yw'r teimlad o gael trawiad ar y galon - ond nid ydych chi'n cael trawiad.

Adnabod panig

Efallai y byddwch chi'n profi'r teimladau canlynol yn ystod pwl o banig: y galon yn curo'n gyflym, poenau yn y frest, newidiadau mewn patrwm anadlu, teimlo'n fyr eich anadl, curo yn y pen, teimlo'n benysgafn, teimlo braw, teimlo'n bryderus, teimlo'n boeth, chwysu, teimlad o dagu, y stumog yn corddi.

Sut i adennill rheolaeth ar ôl pwl o banig

  • Ymarfer anadlu dan reolaeth. Anadlu i mewn trwy'ch trwyn ac allan trwy'ch ceg.
  • Eisteddwch i lawr ac aros iddo basio. Gall fod yn fuddiol defnyddio rhai technegau i dynnu eich sylw oddi ar yr hyn sy'n digwydd, fel cyfrif neu sylwi ar synau neu liwiau.

Dyma dasg i roi cynnig arni:

Ymarfer Anadlu am 3 Munud
  1. Eisteddwch yn dawel, caewch eich llygaid a throwch eich sylw at eich anadlu.
  2. Dewch yn ymwybodol o bob anadl i mewn ac allan.
  3. Sylwch ar sut mae'r aer yn teimlo wrth iddo fynd i mewn i'ch ffroenau, llenwi'ch ysgyfaint a gadael eto.
  4. Llenwch eich ysgyfaint yn araf, o'r gwaelod i'r brig, gan anadlu i mewn fel petai pob cell yn eich corff yn anadlu.
  5. Anadlwch i mewn nes na allwch anadlu i mewn mwy, ac yna anadlu allan yn ysgafn.
  6. Os yw'ch sylw'n crwydro, dewch ag ef yn ôl yn araf. Canolbwyntiwch ar eich anadlu… canolbwyntiwch ar y teimlad corfforol o anadlu.
  7. Rhowch sylw i'ch corff, unrhyw deimladau rydych chi'n sylwi arnyn nhw a synau'r ystafell.
  8. Parhewch i wneud hyn am 3 munud
  9. Pan fyddwch chi'n teimlo'n barod, agorwch eich llygaid yn araf, ymestynnwch a pharhewch â'ch diwrnod.

Hwyliau isel

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dioddef o hwyliau isel ar wahanol adegau yn eu bywyd.  Gall hyn fod o ganlyniad i ddigwyddiad neu bethau nad ydynt yn mynd y ffordd a gynlluniwyd gennym. Mae'r teimladau hyn fel arfer yn tawelu o fewn pythefnos er y gall hyn fod yn hirach ar ôl profi digwyddiad trawmatig neu fod yn sâl. Mae hwyliau isel ac iselder ysbryd yn wahanol. Gall teimladau o hwyliau isel ddatblygu'n iselder os na roddir sylw iddynt.

Ymlacio

  • Mae dilyn technegau ymlacio a thechnegau anadlu er mwyn ymlacio yn rhoi hwb i'ch system imiwnedd, yn gostwng eich pwysedd gwaed ac yn rhoi hwb i'ch lefelau egni.
  • Cynlluniwch hyn er mwyn gallu ymlacio'n iawn a defnyddiwch technegau anadlu fel rhan o'r ffordd o reoli blinder.

Gellir dod o hyd i adnoddau ar gyfer ymlacio ar wefan Mind.

Adnoddau defnyddiol ar gyfer gwella hwyliau ac ymlacio

Pob gwefan Saesneg yn unig.

Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys sy'n cael ei bostio ar wefannau allanol.

Ewch i wefan Getselfhelp i gael adnoddau hunangymorth a therapi CBT (therapi ymddygiad gwybyddol).

Ewch i wefan Mental Health Matters Wales i gael gwybodaeth a chefnogaeth.

Ewch i'r sianel YouTube hon i gael cerddoriaeth ymlaciol.

Ewch i wefan Headspace i gael offer ac adnoddau i ofalu am eich iechyd meddwl.

Ewch i blatfform iechyd meddwl Unmind i gael help gydag iechyd meddwl yn y gwaith.

Ewch i wefan CALM i gael awgrymiadau a mwy.

Ewch i wefan Mind i ddod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth gyda phroblemau iechyd meddwl.

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.