Neidio i'r prif gynnwy

Dryswch

Dryswch

Ar ôl cyfnod o salwch, mae'n gyffredin i bobl brofi dryswch. Efallai y bydd y teimlad o ddryswch yn parhau wedi i chi ddod allan o'r ysbyty. Gall hyn amrywio o ddryswch ysgafn, a all fod fel teimlo ychydig yn ddryslyd, neu gall fod yn fwy difrifol, sy'n cael ei alw'n ddeliriwm.

Dryswch ysgafn

Gall dryswch ysgafn fod yn sgil-effaith arferol yn dilyn haint, diffyg archwaeth bwyd, diffyg hylif, diffyg cwsg, meddyginiaeth, neu newid yn y drefn arferol. Bydd hyn fel arfer yn diflannu wrth i amser fynd yn ei flaen. Os ydych chi'n profi dryswch ysgafn, mae'n bwysig iawn yfed digon, bwyta'n dda a gorffwys cymaint â phosib.

Dryswch difrifol

Mae dryswch difrifol, neu ddeliriwm, yn gyffredin ar ôl i bobl fod mewn gofal dwys yn yr ysbyty, ac os yw pobl wedi bod angen cefnogaeth â'u hanadlu gyda'r defnydd o beiriant yn yr ysbyty.

Gall deliriwm gael ei achosi gan nifer o ffactorau a gall fod yn brofiad brawychus i'r sawl sy'n ei wynebu, yn ogystal ag i berthnasau neu ofalwyr. Efallai y bydd rhywun sy'n profi deliriwm yn gweld neu'n clywed pethau nad ydyn nhw yno ond sy'n ymddangos yn real. Gelwir y rhain yn rhithwelediadau a gallant beri gofid mawr. Gall hyn hefyd arwain at anawsterau eraill, er enghraifft paranoia, pryder ac unigedd. Gall y profiad o gael deliriwm amrywio ac mae'n gyffredin i bobl fod yn iawn am gyfnodau o'r dydd, ac yna mynd i gyflwr o ddryswch.

Er mai dros dro yw hyn fel rheol a'i fod yn debygol o wella wrth i amser fynd yn ei flaen, gall gymryd peth amser i'r symptomau fynd yn llawn. Os profir dryswch difrifol newydd gartref, dylid gofyn am gymorth meddygol.

Gall effeithiau dryswch arwain at newidiadau i'ch emosiynau neu'ch ymddygiadau. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy dagreuol neu'n fwy cynhyrfus na'r arfer. Efallai y byddwch yn sylwi eich bod yn cael anhawster cofio pethau, neu efallai y gwelwch ei bod yn cymryd mwy o amser i chi brosesu gwybodaeth.

Ffyrdd o reoli deliriwm a'ch helpu i wella

Mae'r profiad o ddeliriwm yn amrywio yn ôl yr unigolyn ac felly gall pawb ymateb mewn gwahanol ffyrdd. Fel y nodwyd uchod, mae deliriwm fel arfer yn digwydd dros dro ac nid yw fel arfer yn gadael effeithiau emosiynol parhaol. Fodd bynnag, er mwyn helpu i reoli'r profiad, gallai fod o gymorth i:

  • Ysgrifennu'r hyn y gallwch chi ei gofio am fod yn sâl a bod yn yr ysbyty os yw'n bosibl, er mwyn eich helpu i gofio.
  • Siaradwch ag eraill am sut rydych chi'n teimlo i'ch helpu chi i wneud synnwyr o'r profiad.
  • Os ydych chi'n teimlo y gallwch chi wneud hynny, efallai yr hoffech chi gael cyswllt â'r staff oedd yn ymwneud â'ch gofal. Efallai na fydd yn bosibl gwneud hyn yn bersonol ar hyn o bryd, oherwydd efallai na fyddwch yn teimlo'n barod a gallai cyfyngiadau corfforol wneud hyn yn amhosibl, ond efallai yr hoffech drefnu cyswllt ffôn i helpu i wneud synnwyr o'r hyn a ddigwyddodd.
  • Os byddwch chi'n sylwi ar newidiadau yn eich cof, ceisiwch wneud rhestri byr a nodiadau atgoffa, a defnyddio pethau gweledol i'ch helpu gyda'ch trefn ddyddiol.

Efallai na fydd rhai pobl eisiau siarad am eu profiad o salwch a bod yn yr ysbyty, ac efallai nad ydyn nhw am gofio beth ddigwyddodd. Efallai y bydd yn heriol meddwl am yr adeg hon ac efallai ei bod yn broses raddol o allu meddwl am yr hyn a ddigwyddodd - unwaith eto mae hwn yn brofiad arferol. Mae'n bwysig monitro unrhyw anawsterau rydych chi'n eu profi a chymryd rhan mewn apwyntiadau dilynol gyda staff sy'n ymwneud â'ch gofal.

Os ydych chi'n parhau i gael anawsterau sy'n teimlo'n llethol neu os nad ydyn nhw'n gwella, gofynnwch i'ch meddyg teulu am gymorth ychwanegol.

Ewch i wefan ICUSteps i gael gwybodaeth am strategaethau i wella yn dilyn cyfnod o ddryswch. (Yn anffodus mae hwn yn ddolen allanol, ac nid yw ar gael yn Gymraeg.)

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.