Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta ac yfed yn dda

Bwyta ac yfed yn dda

Mae bwyta ac yfed yn weithgaredd cymhleth sy'n cynnwys llawer o wahanol nerfau a chyhyrau. Mae rheoli'r ffordd rydyn ni'n anadlu yn bwysig iawn hefyd. Er mwyn teimlo'n iach mae'n bwysig yfed digon o hylif a chael diet sy'n cynnwys digon o faetholion.

Os ydych wedi cael diagnosis o COVID-19 yn ddiweddar, efallai y cewch drafferth gyda bwyta ac yfed oherwydd:

  • Blinder a gwendid cyffredinol a all effeithio'n fawr ar eich cnoi a'ch llyncu.
  • Treulio amser yn ITU ar diwb anadlu / awyru i'ch helpu i anadlu, sy’n gallu arwain at chwyddo yn eich gwddf a gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus.
  • Cyhyrau llyncu gwan - Pan fyddwn ni'n bwyta ac yfed rydym yn defnyddio llawer o nerfau a chyhyrau a all fynd yn wannach dros amser os nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio. Os na wnaethoch chi fwyta ac yfed am gyfnod o amser yn yr ysbyty, efallai y bydd eich cyhyrau llyncu wedi mynd yn wannach.
  • Llai o archwaeth bwyd.

Os ydych chi wedi cael eich asesu gan Therapydd Lleferydd ac Iaith yn ystod eich cyfnod yn yr ysbyty efallai eich bod wedi cael cyngor ar sut i wneud bwyta ac yfed yn haws, fel cael bwydydd meddalach neu dewychu'ch diodydd. Os oes angen, efallai i chi gael rhaglen o ymarferion i helpu i gryfhau'ch llyncu.

Cysylltwch â'ch meddyg teulu os ydych chi'n cael anawsterau parhaus gyda bwyta ac yfed neu os oes gennych chi unrhyw un o'r symptomau canlynol

  • Peswch wrth fwyta ac yfed, ac ar ôl hynny
  • Heintiau newydd ar y frest a chael heintiau’n aml
  • Llais gwlyb neu fyrlymog ar ôl bwyta neu yfed
  • Bwyd yn glynu yn eich gwddf

Symptomau COVID-19

Gall symptomau COVID-19 amrywio'n fawr; efallai na fyddwch chi'n profi unrhyw un o'r symptomau a restrir ar yr ychydig dudalennau nesaf, neu efallai na fyddwch chi'n profi pob un ohonyn nhw. Bwriad y wybodaeth hon yw rhoi rhai awgrymiadau ymarferol er mwyn cael maeth da wrth i chi wella o'ch salwch a chefnogi'ch system imiwnedd.

Blinder neu'n fyr o anadl amser bwyd

Os yw amser bwyd yn heriol oherwydd eich bod chi'n teimlo'n flinedig neu'n fyr eich anadl, rhowch gynnig ar y technegau hyn:

  • Rhowch gynnig ar gael 6-8 byrbryd trwy gydol y dydd, yn hytrach na thri phryd o fwyd mawr. Gall hyn helpu i roi egni i chi trwy gydol eich dydd a lleihau'r risg y byddwch chi'n teimlo'n rhy flinedig ar ôl eich pryd bwyd. Os nad oes awydd bwyd arnoch chi, yna ystyriwch ddiod laethog yn lle hynny.
  • Gall prydau a byrbrydau meddal a llaith fod yn haws eu rheoli pan fyddwch chi'n teimlo'n flinedig. Os ydych chi'n cael rhywbeth sych, ystyriwch ychwanegu saws neu siytni i wneud pethau'n haws eu bwyta. 
  • Bwytewch yn araf, yn ddelfrydol gan eistedd yn gefnsyth a chadw eich anadlu yn gyson. Os ydych chi'n cael trafferth, yna stopiwch, gorffwys a rhoi cynnig arall arni ychydig yn ddiweddarach.
  • Gofynnwch i ffrindiau ac aelodau o'r teulu helpu gyda pharatoi prydau bwyd.
  • Cadwch fflasg neu botel ddiodydd gerllaw sy'n cynnwys diodydd.

Peswch

Os yw'ch peswch yn barhaus:

  • Sicrhewch eich bod yn yfed yn rheolaidd, anelwch am 6-8 gwydraid y dydd. Bydd angen mwy arnoch chi os oes gennych chi dwymyn neu ddolur rhydd neu os ydych chi'n chwydu.
  • Mae'n hen chwedl y dylid osgoi bwydydd llaethog - NID YW HYN YN WIR, oni bai eich bod chi’n gwybod bod gennych chi alergedd i Brotein Llaeth Buwch.
  • Os ydych chi'n cael pwl o besychu amser bwyd, stopiwch a gorffwys ac yna rhowch gynnig arall arni pan fyddwch chi'n barod.

Gofalu am eich ceg

Mae hyn yn bwysig iawn os ydych chi'n cael anhawster bwyta ac yfed a hefyd os ydych chi wedi cael unrhyw help gyda'ch anadlu yn yr ysbyty. Gall defnyddio masgiau a thiwbiau anadlu wneud i'ch ceg fynd yn sych iawn, a gall hyn annog mwy o facteria i ddatblygu.

Mae gofal ceg rheolaidd yn bwysig i helpu i atal heintiau a sychder.

Ceg sych / boenus

Mae rhai pobl yn cael ceg sych pan fyddant yn defnyddio ocsigen, nebiwlyddion neu rai anadlwyr. Os yw hyn yn wir, gall effeithio ar eich chwant bwyd. Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i'ch helpu'ch hun:

  • Dewiswch fwydydd meddal a llaith.
  • Yfwch ddiodydd bach yn aml.
  • Gall y rhain helpu: lolïau iâ wedi'u gwneud â sudd ffrwythau neu sgwash, gwm heb siwgr, a losin ffrwythau.
  • Yfwch ddigon. Gall sudd ffrwythau bigo felly rhowch gynnig ar opsiynau llai asidig fel sgwash, llaeth neu ddiodydd sy'n cynnwys llaeth.
  • Gall bwyd a diodydd oer leddfu poen, ond os na, ceisiwch addasu tymheredd eich diodydd i weld a yw'n helpu; mae'n bosib mai diodydd sydd ar dymheredd yr ystafell sydd orau. 
  • Efallai y bydd bwyd hallt neu sbeislyd hefyd yn pigo os yw'ch ceg yn boenus.
  • Mae bwyd meddal, llaith yn llai tebygol o grafu mannau poenus yn y geg.

Dywedwch wrth eich meddyg os oes gennych geg sych neu boenus yn barhaus, oherwydd efallai y gallant roi rhywbeth i helpu. Efallai y bydd hefyd angen cyffuriau lleddfu poen arnoch chi cyn amser bwyd os yw'ch ceg yn boenus iawn.

Newidiadau mewn blas

Gall newidiadau yn eich synnwyr o flas ddigwydd am lawer o resymau ond gallant effeithio ar eich chwant bwyd a'ch awydd am fwyd. Rhai pethau y gallwch chi eu gwneud i'ch helpu'ch hun yw:

  • Mae gan fwydydd siarp, sbeislyd a melys flas cryfach. Daliwch ati i roi cynnig ar wahanol sesnin a sawsiau i ddod o hyd i'r hyn sy'n iawn i chi.
  • Efallai na fydd y newidiadau mewn blas yn para'n hir, felly os nad oes awydd bwydydd penodol arnoch chi, rhowch gynnig arall arnyn nhw’n rheolaidd.

Llai o ddiddordeb mewn bwyd neu hwyliau isel

Os ydych chi'n gweld nad oes awydd bwyd arnoch chi neu nad ydych chi'n teimlo fel bwyta, fe allech chi:

  • Fwyta gyda phobl eraill yn eich cartref.
  • Ystyried sut mae'r bwyd yn cael ei gyflwyno, er enghraifft a oes gennych chi blât neu gwpan rydych chi'n hoff o'u defnyddio?
  • Dewiswch brydau bwyd yn seiliedig ar yr hyn rydych chi'n teimlo fel ei fwyta'r diwrnod hwnnw.

Colli pwysau

Os ydych wedi colli pwysau, mae'n bwysig bwyta ac yfed digon. Rhai pethau i roi cynnig arnyn nhw yw:

  • Cael tri phryd y dydd a rhai byrbrydau rhwng prydau bwyd.
  • Cael o leiaf dwy ddiod maethlon y dydd, fel ysgytlaeth, smwddis, llaeth poeth.
  • Yfed 6-8 gwydraid o hylif bob dydd - te, coffi, dŵr.

Gallwch ychwanegu bwydydd i’w rhoi ar ben prydau er mwyn eich helpu i fagu pwysau a chael mwy o egni. Fe allech chi roi cynnig ar:

  • Caws wedi'i gratio
  • Mayonnaise
  • Llaeth anwedd
  • Hufen
  • Menyn
  • Powdr llaeth sych

Llaeth wedi'i gyfoethogi: Ychwanegwch bedair llwy fwrdd fawr o bowdr llaeth at bob peint o laeth hufen llawn.  Defnyddiwch o leiaf un peint o'r llaeth hwn ar rawnfwyd, mewn diodydd ac mewn pwdinau bob dydd.

Beth alla' i ei wneud os ydw i'n ei chael hi'n anodd gwneud prydau bwyd?

  • Ystyriwch ddefnyddio prydau parod a bwydydd cyfleus.
  • Sicrhewch fod cwmnïau fel Wiltshire Farm Foods, Oakhouse Foods, archfarchnadoedd neu siopau lleol yn dosbarthu bwyd neu brydau wedi'u rhewi i'ch drws.
  • Caniatewch i deulu a ffrindiau helpu gyda siopa a choginio pan fo hynny'n bosibl.
  • Efallai y bydd eich cyngor lleol yn cynnig cefnogaeth os ydych chi'n hunanynysu ac os nad oes gennych chi deulu na ffrindiau i helpu gyda'r siopa.

Os ydych chi'n parhau i golli pwysau ar ôl rhoi cynnig ar yr awgrymiadau hyn neu os nad ydych chi'n dal i fwyta ac yfed yn dda, dywedwch wrth eich meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.