Neidio i'r prif gynnwy

Gwella o COVID-19 - Pecyn Gwybodaeth Therapi

Delwedd yn dangos traed yn sefyll ar saeth fawr wedi

Gwella o COVID-19 - Pecyn Gwybodaeth Therapi

Ar ôl cyfnod o fod yn sâl, mae'n gyffredin iawn cymryd peth amser i wella, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn yr ysbyty. Mae hyn hefyd yn wir am COVID-19 (Coronafeirws). Mae symptomau’r feirws ac effeithiau bod yn yr ysbyty yn amrywio o berson i berson.

Efallai y bydd y cyngor isod yn ddefnyddiol i chi wrth i chi ddechrau gwella o COVID-19 gartref.

Mae'r Pecyn Gwybodaeth Therapi llawn ar gael i'w lawrlwytho fel ffeil PDF yma. (Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Bydd fersiwn Gymraeg yn dilyn yn fuan.)

Ap Adfer COVID


Mae ap Adfer COVID Cymru gyfan yn rhad ac am ddim, yn ddwyieithog ac ar gael ar Apple ac Android. Mae'r ap wedi'i ddatblygu gan arbenigwyr o bob cwr o'r wlad. Mae'r ap Adferiad COVID wedi'i ddatblygu i gefnogi pobl sy'n gwella ar ôl COVID-19, i gefnogi pobl sydd wedi bod yn cysgodi, yn ogystal â'r rhai sy'n aros am ofal wedi'i oedi, wedi'i gynllunio a'r rhai sydd wedi osgoi mynediad at ofal yn ystod y pandemig.

Gallwch ei lawrlwytho trwy'r dolenni isod:

Ewch yma i lawrlwytho'r Ap Adfer Covid o Google Play Store

Ewch yma i lawrlwytho'r Ap Adfer Covid  o Apple Store

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.