Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu â'n Cynigion ar gyfer Gwasanaethau Hydrotherapi yn dilyn Covid-19

Daeth yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn i ben ar 18 Chwefror 2022.

Os hoffech ddarllen papurau’r bwrdd lle cafodd yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn ei ystyried yn y bwrdd ym mis Chwefror 2022, dilynwch y ddolen hon. Sylwch, dim ond yn Saesneg y mae'r dudalen hon ar gael ar hyn o bryd.


Ymgysylltu Cyhoeddus - O 20 Rhagfyr, 2021 i 18 Chwefror, 2022

Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am y cyfarfodydd cyhoeddus rhithwir sydd ar ddod ym mis Chwefror 2022 i drafod y cynigion ar gyfer Gwasanaethau Hydrotherapi yn dilyn Covid-19.

 

Beth mae'r ddogfen ymgysylltu hon yn sôn amdano, a phwy ddylai ei darllen?

Mae'r ddogfen yn sôn am newid ein gwasanaethau hydrotherapi wrth symud ymlaen, er mwyn cynorthwyo datblygiad ein prif ysbytai i Ganolfannau Rhagoriaeth ar gyfer gwasanaethau penodol ac i sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau gwell ar gyfer ein cleifion, gwella cynaliadwyedd ein gwasanaethau, a defnyddio'r adnoddau sydd gennym yn effeithiol.

Gwnaeth y Bwrdd Iechyd, mewn partneriaeth â Chyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe, ystyried canlyniadau ein hymgysylltiad am Ofal Brys a Gofal wedi'i Gynllunio ar ôl Covid-19 yn ei gyfarfod ar Hydref 28. Cytunodd y Bwrdd y gallai'r cynigion fynd yn eu blaen, gyda rhai gweithrediadau ychwanegol i fynd i'r afael â phryderon a godwyd fel rhan o'r adborth. Cytunwyd y byddai gwaith pellach yn cael ei gyflawni am sut y byddwn yn darparu gwasanaethau hydrotherapi yn y dyfodol, gan adeiladu ar yr adborth a dderbyniwyd drwy'r broses hon.

Gan adeiladu ar y bwriad i ddatblygu pob un o'n prif ysbytai yn Ganolfannau Rhagoriaeth yn eu rhinwedd eu hun, a'r adborth a dderbyniwyd o brosesau ymgysylltu blaenorol, mae'n bwysig ein bod yn ystyried sut gall y ddarpariaeth o wasanaethau hydrotherapi symud ymlaen fel y gallwn wella mynediad at y gwasanaethau hyn a'u darparu i safon uwch.

Wrth i'n cynigion am ofal brys a gofal wedi'i gynllunio gael eu gweithredu, bydd yn arwain at ein cleifion mwyaf sâl yn cael gofal yn Nhreforys. Ble bydd angen adfer ar gleifion cyn dychwelyd gartref, byddant yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, sef ein Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Adfer. Felly, byddem yn disgwyl i gleifion mewnol sydd angen hydrotherapi fel rhan o'u hadfer dderbyn hyn yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn y dyfodol, ac nid yn Ysbyty Treforys.

Yn gyffredinol, mae plant yn mynychu'r gwasanaeth hydrotherapi fel cleifion allanol, a felly byddai'n rhaid iddynt fynd i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot neu Ysbyty Singleton gan ddibynnu ar ble maent yn byw.

Hefyd, bwriedir i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ddod yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau Orthopedig a'r Asgwrn Cefn, a byddai'n cynnig gwasanaeth hydrotherapi i'r cleifion mewnol hyn fel sydd ei angen ar gyfer eu hadfer.

Bwriedir i Ysbyty Singleton ddod yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau i Fenywod, ac felly byddai gwasanaethau hydrotherapi yn cael eu darparu yno i gleifion priodol, er enghraifft menywod sy’n geni yn y dŵr, menywod cyn ac ar ôl eu beichiogrwydd, a Gynacoleg.

Hefyd, rydym am ehangu mynediad cleifion allanol a chymunedau i wasanaethau hydrotherapi.  Mae Ysbytai Singleton a Chastell-nedd Port Talbot yn cynnig mynediad da i gleifion sy'n ymweld â'u safleoedd, ac felly bydd ar gael i'r unigolion hyn. Hefyd, rydym am annog grwpiau cymunedol a sefydliadau'r sector gwirfoddol i ddefnyddio'r pyllau hyn, ac felly'n cynnig estyn y drefn ar gyfer llogi'r pwll yn Ysbyty Singleton i'r pwll yn Ysbyty Castell-nedd hefyd.

Felly, rydym yn cynnig y canlynol:

  • Dylem ddefnyddio'n pwll hydrotherapi yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot i bob claf mewnol y mae angen y gwasanaeth hwn ar gyfer eu hadfer cyn iddynt ddychwelyd gartref.
  • Dylem ddefnyddio ein pyllau Hydrotherapi yn Ysbytai Singleton a Chastell-nedd Port Talbot ar gyfer cleifion allanol ac adfer ar gyfer cleifion priodol wedi iddynt ddychwelyd gartref.
  • Byddwn yn gwneud y pyllau Hydrotherapi yn Ysbytai Singleton a Chastell-nedd Port Talbot ar gael i'w llogi y tu allan i oriau gweithredu'r GIG gan grwpiau cymunedol a sefydliadau'r sector gwirfoddol.
  • Bod y pwll Hydrotherapi yn Ysbyty Treforys yn cau, gan y bydd y cleifion mewnol a wnaeth dderbyn y gwasanaeth yno'n draddodiadol bellach yn ei dderbyn (yn unol â datblygiad y Canolfannau Rhagoriaeth newydd) yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn lle. Mae’r cleifion a fu’n mynychu Ysbyty Treforys fel cleifion allanol yn y gorffennol eisoes wedi cael eu trosglwyddo i dderbyn eu hydrotherapi yn Ysbyty Singleton neu Ysbyty Castell- nedd Port Talbot, gan ddibynnu ar ba un sydd hawsaf iddynt ei fynychu.
  • O ganlyniad, cynigir y bydd yr ardal yn Ysbyty Treforys sy'n cael ei rhyddhau, sef yng nghanol safle'r ysbyty, yn cael ei defnyddio i leoli gwasanaethau eraill y mae’n rhaid iddynt fod ar safle Ysbyty Treforys yn unig ac sydd eu hangen yno er mwyn i Dreforys gyflawni ei rôl fel Canolfan Ragoriaeth ar gyfer gofal brys a gofal argyfyngol i Fae Abertawe. Yn benodol, mae'r Bwrdd Iechyd yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio'r ardal hon i alluogi gwasanaethau'r Clinig Torri Asgwrn i gael ei ail-leoli yn ôl o Ysbyty Castell-nedd Port Talbot (symudwyd iddo dros dro yn ystod y pandemig i leihau presenoldeb yn Ysbyty Treforys) fel bod y gwasanaeth hwn, a'r Ystafell Blastro gysylltiedig, yn gallu cael eu darparu ochr yn ochr â'r Adran Frys yn Ysbyty Treforys er mwyn cynnig hwb canolog am gymorth ynghylch argyfwng orthopedig a gofal brys.
  • Er mwyn darparu gwasanaethau gwell ar draws pyllau Hydrotherapi Singleton a Chastell-nedd Port Talbot ar draws Bae Abertawe i gyd, bydd cynnydd yn y nifer o oriau y bydd pob pwll yn gweithredu o 5-6 awr y dydd (9-3pm) i 8-10 awr y dydd (8am- 6pm), gyda phob sesiwn yn cael eu defnyddio. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 11% o weithgarwch dros y 2 bwll o gymharu â phan roedd y 3 phwll yn cael eu defnyddio.
  • Ar hyn o bryd, mae pob claf sydd angen hydrotherapi yn cael eu gwasanaethu gan y ddau bwll sy'n gweithredu ar hyn o bryd (h.y. gan fod y pwll yn Ysbyty Treforys yn dal i fod ar gau dros dro). Er mwyn ymdopi ag unrhyw gynnydd yn y galw, bydd y Bwrdd Iechyd yn ymestyn yr oriau gweithredu ar ddydd Llun i ddydd Gwener o 9am-3pm i 8am-6pm, yn ogystal ag ystyried gwneud y gwasanaeth hwn ar gael i'w logi ar benwythnosau.
  • Darparu hyfforddiant arbenigol ychwanegol i staff i alluogi ystod ehangach o ffisiotherapyddion i gynorthwyo'r gwasanaethau Hydrotherapi, wedi'u cynorthwyo gan arweinydd clinigol Bae Abertawe ar gyfer y gwasanaethau hyn.
  • Gweithio gyda'n Hawdurdodau Lleol a'n darparwyr canolfannau hamdden lleol i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i gynnig therapi dŵr o fewn rhai o'u pyllau cymunedol. Bydd y model 'agosach i'r cartref' hwn yn helpu i gynorthwyo aelodau'r cyhoedd i wella eu hiechyd a'u lles.

Felly byddwn yn argymell mai'r ddau bwll yma yw'r pyllau sy'n cael eu cadw ar agor.

Bydd canolbwyntio ar y ddau safle pwll yma yn ein galluogi i ddatblygu lefel gynyddol o arbenigaeth ar gyfer ein cleifion a phoblogaeth ein bwrdd iechyd, tra'n gwella mynediad cyffredinol.

Mae ymgysylltu cyhoeddus â'r Gwasanaethau Hydrotherapi yn dlyn Covid-19 yn digwydd rhwng 20 Rhagfyr, 2021 a hanner nos ar 18fed Chwefror, 2022.

Gellir cyrchu'r cynigion llawn ar gyfer Gwasanaethau Hydrotherapi yn dilyn dogfen ymgysylltu Covid-19 trwy'r ddolen hon.

Gellir cyrchu fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o'r cynigion ar gyfer Gwasanaethau Hydrotherapi yn dilyn Ymgysylltiad Cyhoeddus Covid-19 ar YouTube trwy'r ddolen hon.

Gallwch gyrchu dogfen hawdd ei darllen sy'n cynnwys y cynigion llawn ar gyfer Gwasanaethau Hydrotherapi yn dilyn Covid-19 trwy'r ddolen hon mewn fformat PDF.

Gallwch gyrchu ffurflen ymateb hawdd ei darllen ar gyfer Gwasanaethau Hydrotherapi yn dilyn Covid-19 trwy'r ddolen hon mewn fformat Word.

Mae hefyd ar gael yn Gymraeg, print bras (Saesneg a Chymraeg), disg sain (Saesneg a Chymraeg), fideo Iaith Arwyddion Prydain, hawdd i ddarllen a Braille. Gallwch ofyn am y rhain trwy ffonio 01639 683355 neu drwy e - bostio SBU.engagement@wales.nhs.uk.

Isod mae manylion amrywiaeth o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni a chymryd rhan yn yr ymgysylltiad hwn.

Gallwch roi’ch barn i ni drwy:

Llenwch y ffurflen ymateb sydd wedi'i chysylltu yma a'i dychwelyd atom trwy'r cyfeiriad neu'r cyfeiriad e-bost isod.

Ysgrifennu atom:

Y Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, 1 Porthfa Talbot, Baglan, SA12 7BR

E-bostio: SBU.engagement@wales.nhs.uk

Ffonio a gadael neges: (01639) 683355

Dolen i'n tudalen Facebook yma

Dolen i'n cyfrif Twitter yma

Fel arall, gallwch roi’ch barn i’r Cyngor Iechyd Cymuned trwy:

Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe, Ysbyty Cimla, Cimla, Castell-nedd, SA11 3SU

Neu e-bostio: swanseabay@waleschc.org.uk

Diolch i chi am ddarllen hwn a rhoi eich barn i ni.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.