Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn

Daeth yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn i ben ar 12 Medi 2021.

Os hoffech ddarllen papurau’r bwrdd lle cafodd yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn ei ystyried yn y bwrdd ym mis Hydref 2021, dilynwch y ddolen hon. Sylwch, dim ond yn Saesneg y mae'r dudalen hon ar gael ar hyn o bryd.

Cyflwynwyd diweddariadau pellach i'r bwrdd ym mis Ionawr 2022. Os hoffech ddarllen y diweddariad hwn, dilynwch y ddolen hon. Sylwch, dim ond yn Saesneg y mae'r dudalen hon ar gael ar hyn o bryd.


Dywedwch wrthym eich profiadau o gefnogaeth a gwasanaethau i bobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl ym Mae Abertawe.

Dogfen ymgysylltu ar ein cynigion i greu un gwasanaeth integredig ar draws Bae Abertawe ar gyfer pobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl; a'n cynigion i leihau a newid y defnydd o welyau.

Ymgysylltu Cyhoeddus - O 5 Gorffennaf i 12 Medi 2021

 

Beth yw’r ddogfen ymgysylltu hon a phwy ddylai ei darllen?

Rydym am glywed am eich profiadau o sut rydym yn cefnogi pobl hŷn â phroblemau Iechyd Meddwl ar draws ardal Bae Abertawe; pa mor dda rydym yn galluogi pobl i aros yn eu cartref eu hun neu eu cartref gofal gyhyd ag sy’n bosibl, yn byw'r bywyd gorau posibl; a pha mor dda rydym yn eich cefnogi chi i leihau’ch risg o ddatblygu iechyd meddwl gwael wrth i chi heneiddio.

Mae’r Bwrdd Iechyd, Awdurdodau Lleol a’r sector gwirfoddol yn datblygu cynllun tymor hwy i wella sut rydym yn gwneud hyn ac rydym am ystyried eich profiadau a’ch barn wrth ddatblygu’r cynllun hwn.

Yn ail, rydym am glywed eich barn am y newidiadau rydym yn eu cynnig  i’n gwelyau arbenigol i gleifion mewnol sy’n darparu asesu a gofal tymor hwy ar gyfer y nifer fach o bobl hŷn sydd â’r lefelau uchaf o angen na ellir gofalu amdanynt yn ddiogel yn unrhyw le arall.

Bydd y cynigion hyn yn rhoi modd i ni gynyddu nifer y llawdriniaethau (cymal) orthopedig lle rydym wedi gweld cynnydd parhaus yn ein rhestrau aros gyda nifer fawr o gleifion yn aros dros flwyddyn am lawdriniaethau orthopedig mawr.

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi buddsoddi adnoddau ychwanegol sylweddol yn ein gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, sy’n golygu bod llai o’n gwelyau arbenigol i gleifion mewnol wedi cael eu defnyddio. Rydym wedi bod yn adolygu nifer y gwelyau iechyd meddwl i bobl hŷn sydd ei hangen arnom o ystyried y nifer isel o welyau sy’n cael eu defnyddio, a’r heriau staffio cysylltiedig â chefnogi nifer y gwelyau oedd gennym cyn Covid-19. Felly, yn hwyr yn 2019 fe wnaethom gau 14 gwely (Ystafell 4) dros dro yn Ysbyty Tonna oherwydd problemau staffio aciwt a dechrau ymgysylltiad cyhoeddus ar gau’r gwelyau hyn yn barhaol ym mis Mawrth 2020. Oherwydd y pandemig fe wnaethom oedi’r ymgysylltiad hwn.

Rydym bellach wedi adolygu’r cynigion hyn yng ngolau newidiadau a wnaed i wasanaethau fel y gallai’r gwasanaeth iechyd ymdopi â gofynion Covid-19 a’r angen i gynyddu nifer y llawdriniaethau orthopedig rydym yn eu cynnal. O ganlyniad, rydym wedi tynnu ein cynigion gwreiddiol yn ôl (ymgysylltiad Mawrth 2020) a datblygu set amgen o gynigion a amlinellir yn y ddogfen hon.

Bydd canlyniad yr ymgysylltiad a'r holl ymatebion a dderbynnir yn cael eu hystyried gan y Bwrdd Iechyd a'r Cyngor Iechyd Cymunedol ym mis Hydref 2021. Yn seiliedig ar hyn, bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch a ellir gweithredu'r cau gwelyau arfaethedig neu a oes angen ymgynghoriad cyhoeddus pellach. .

Yn gyffredinol, rydym yn credu bod hyn yn dangos i ni fod gennym ormod o arian ac adnoddau staff ynghlwm wrth welyau ysbyty ac mae angen i ni symud mwy o staff i gynorthwyo cleifion mewn lleoliadau yn y gymuned ac yn eu cartrefi eu hunain, gan gynnwys rhoi mwy o gymorth i’w teuluoedd a’u gofalwyr.

Er bod y ddogfen hon yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’n gwasanaethau trwy gau 37 gwely, rydym hefyd yn awyddus i wybod am eich profiadau o’r cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl yn ardal Bae Abertawe fel y gallwn sicrhau ein bod yn ystyried y rhain wrth ddatblygu ein Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn.

Rydym am wybod beth yw’ch profiadau – da neu ddrwg, a’r hyn rydych chi’n meddwl y dylem ei wneud yn wahanol o ran darparu cymorth a gwasanaethau i bobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl yn y dyfodol a’u gofalwyr a’u teuluoedd, yn enwedig sut y gallwn eich cynorthwyo i aros yn eich cartref eich hun.

Ymgysylltu â'r cyhoedd ar y gostyngiad o 37 o welyau iechyd meddwl pobl hŷn yn dod o 5 Gorffennaf i 12 Medi 2021.

Gellir cyrchu dogfen ymgysylltu lawn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn trwy'r ddolen hon.

Gallwch chi ymweld a'r dogfen Cam 1 Asesiad Effaith Cydraddoldeb Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn trwy'r ddolen hon. 

Gellir gweld y ddogfen PDF hawdd ei ddarllen gwella gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl hŷn ym Mae Abertawe drwy'r ddolen hon.

Gellir gweld y ffurflen ymateb hawdd i ddarllen am gwella gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl hyn yn Bae Abertawe dogfen Word trwy'r ddolen hwn.

Gellir gweld y fersiwn Iaith Arwyddion Prydain Ymgysylltu Cyhoeddus Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn ar YouTube trwy'r ddolen hwn.

Gellir cyrchu fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o Arolwg Ymgysylltu Cyhoeddus Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn ar YouTube trwy'r ddolen hon.

Mae hefyd ar gael yn Gymraeg, print bras (Saesneg a Chymraeg), llyfr sain (Saesneg a Chymraeg), fideo Iaith Arwyddion Prydain, hawdd i ddarllen a Braille. Gallwch ofyn am y rhain trwy ffonio 01639 683355 neu drwy e - bostio SBU.engagement@wales.nhs.uk.

Isod mae manylion amrywiaeth o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni a chymryd rhan yn yr ymgysylltiad hwn.

Gallwch roi’ch barn i ni drwy:

Llenwch y ffurflen ymateb sydd wedi'i chysylltu yma a'i dychwelyd atom trwy'r cyfeiriad neu'r cyfeiriad e-bost isod.

Ysgrifennu atom:

Y Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, 1 Porthfa Talbot, Baglan, SA12 7BR

E-bostio: SBU.engagement@wales.nhs.uk

Ffonio a gadael neges: (01639) 683355

Dolen i'n tudalen Facebook yma

Dolen i'n cyfrif Twitter yma

Fel arall, gallwch roi’ch barn i’r Cyngor Iechyd Cymuned trwy:

Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe, Ysbyty Cimla, Cimla, Castell-nedd, SA11 3SU

Neu e-bostio: swanseabay@waleschc.org.uk

Diolch i chi am ddarllen hwn a rhoi eich barn i ni.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.