Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu â Chleifion Canolfan Iechyd Brunswick

Cynnig i adleoli adeilad Canolfan Iechyd Brunswick

Daeth yr ymgysylltiad hwn i ben ar 27 Chwefror 2023.

Mae’r Canolfan Iechyd Brunswick am symud ei adeilad o 139/140 Heol St Helens, Abertawe SA1 4DE i Dŷ Healthfield, 91 Healthfield, Abertawe SA1 6EL.

Mae ei safle presennol (A) ar y map. Tŷ Healthfield yw (D) ar y map. Mae Tŷ Healthfiled 0.8 milltir i ffwrdd o’r adeilad presennol.

Delwedd o fap yn dangos y bwriad i adleoli Canolfan Iechyd Brunswick.

Bydd yr adeilad newydd yn cael nifer o fanteision:

  • Cyfleusterau gwell ar gyfer staff a chleifion o fewn yr adeilad sydd wedi'i adnewyddu
  • Mwy o lefydd parcio gyda mannau wedi’u chadw ar gyfer ymwelwyr anabl
  • Bae Ambiwlans
  • Gall adeilad gwell helpu i gael a chadw mwy o staff
  • Bydd yr adeilad wedi’i lleoli i ffwrdd o heol brysur

Fodd bynnag, gallant fod yn anoddach i gleifion sy’n defnyddio cludiant cyhoeddus i gyrraedd yr ymarfer.

Ymgysylltu â chleifion

Bydd ymgysylltu â chleifion yn dechrau ar 30 Ionawr 2023 ac yn gorffen ar 27 Chwefror 2023.

Hoffai’r Bwrdd Iechyd clywed eich meddyliadau ar y symudiad posib. Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar adeiladau eraill y gallem edrych ar, rhowch wybod i ni. Dyma sut y gallwch gyflwyno eich adborth:

Delwedd o god QR ar gyfer y ffurflen adborth ar gyfer Ymgysylltiad Cleifion Adleoli Brunswick.

Gallwch chi hefyd cael copi o’r ffurflen adborth trwy gysylltu â’r e-bost uchod neu’r rhif ffôn.

Digwyddiad galw heibio

Rydym ni yn cynnal sesiwn galw heibio i gleifion ar Dydd Llun, 13 Chwefror 2023 o 2pm – 6pm. yn ystafell 10, YMCA, Abertawe.

Dewch i rannu eich sylwadau.

Dolenni defnyddiol

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen llythyr at bob claf yng Nghanolfan Iechyd Brunswick.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen taflen wybodaeth yn cynnwys y wybodaeth uchod am Ganolfan Iechyd Brunswick o bosibl yn symud safle.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen cwestiynau cyffredin am Ganolfan Iechyd Brunswick o bosibl yn symud eiddo.

Diolch am eich help ac rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.