Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu â Chleifion Canolfan Feddygol Cheriton

Daeth yr ymgysylltiad hwn i ben ar 17 Chwefror 2023.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cael gwybod y bydd Dr Dhamayanthi Vigneswaran, o Ganolfan Feddygol Cheriton, yn ymddiswyddo.

Y cyfnod rhybudd yw tri mis. Bydd Dr Vigneswaran yn gorffen darparu gwasanaethau ar 31 Mawrth 2023. Hoffai'r Bwrdd Iechyd gydnabod a ddiolch i Dr Vigneswaran am y gwasanaethau mae hi wedi’u darparu i'r gymuned am nifer o flynyddoedd.

Dr Vigneswaran yw'r unig Meddyg Teulu yng Nghanolfan Feddygol Cheriton, ac mae angen i'r Bwrdd Iechyd sicrhau bod cleifion Dr Vigneswaran yn gallu parhau i gyrchu gwasanaethau Meddyg Teulu. Trefnwyd Panel Practis Gwag i ystyried yr opsiynau sydd ar gael.

Bu’r pwyntiau a ystyriwyd gan y panel yn cynnwys:

  • Sicrhau bod cleifion yn gallu parhau i gyrchu gwasanaethau gan bractis Meddyg Teulu ar ôl 31 Mawrth.
  • Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn dyfarnu contracau newydd i Feddygon Teulu Unigol, gan fod yna nifer o heriau o amgylch cynaliadwyedd am y dyfodol ac mae'n anodd recriwtio a chadw Meddygon Teulu
  • Mae yna 12 o bractisau cyfagos sydd ar gael i gymryd cleifion newydd.
  • Bydd gan gleifion fynediad ehangach i dimau clingol ehangach a gwasanaethau ychwanegol.

Ar ôl ystyriaeth ofalus, arghymhellodd y panel mai’r unig ospiwn ar gael i'r Bwrdd Iechyd er mwyn sicrhau y bydd cleifion yn gallu parhau i grychu gwasanaethau Meddyg Teulu o 31 Mawrth 2023 yw dyrannu'r rhestr. Mae hyn yn golygu y bydd angen i gleifion sydd wedi cofrestru â Chanolfan Feddygol Cheriton gael eu dyrannu i Bractis Meddyg Teulu arall.

Bydd angen i bob claf eu trosgwlyddo i bractis newydd erbyn 31 Mawrth 2023 i sicrhau bod cleifion yn parhau i gael mynediad at wasanaethau Meddyg Teulu.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig gofrestru cleifion â phractis Meddyg Teulu sydd yn agosach at eu cartref. Bydd hyn yn dechrau o 1 Ebrill 2023 a bydd y practis Meddyg Teulu newydd yn derbyn cofnodion cleifion fel y bydd yn ymwybodol o'u hanes meddygol ac unrhyw feddyginiaethau y maen nhw'n eu cymryd. 

Ni fydd angen i gleifion wneud unrhyw beth a byddan nhw'n gallu cysylltu â'u practis newydd o 1 Ebrill i gyrchu gwasanaethau.

Parhewch i ddefnyddio gwasanaethau Meddyg Teulu a Nyrsio yng Nghanolfan Feddygol Cheriton i fynychu unrhyw glinigau nes 31 Mawrth 2023. 

Ymgysylltu â Chleifion a Rhanddeiliaid

Bydd ymgysylltiad cleifion a rhanddeiliad yn dechrau ar 23 Ionawr 2023 ac yn gorffen ar 17 Chwefror 2023.

Hoffai'r Bwrdd Iechyd eich gwahodd chi i rannu eich adborth ynghylch sut bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi a beth allwn ni ei wneud i leihau'r effaith. Dyma sut y gallwch gyflwyno eich adborth:

Delwedd o god QR ar gyfer y ffurflen adborth ar gyfer Ymgysylltu â Chleifion a Rhanddeiliaid Canolfan Feddygol Cheriton.

Digwyddiad galw heibio

Bydd y Bwrdd Iechyd yn cynnig sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Gymunedol Blaen-y-Maes a Phorthfedd  ar 8 Chwefror rhwng 2pm a 6pm lle gallwch ddod draw i rannu eich safbwyntiau. Mae'n bosib y bydd sesiynau pellach yn y gymuned hefyd yn cael eu trefnu.

Dilynwch y ddolen hon i weld poster dwyieithog gyda gwybodaeth am sesiwn galw heibio Ymgysylltu â Chleifion a Rhanddeiliaid Canolfan Feddygol Cheriton.

Dolenni defnyddiol

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen llythyr at bob claf yng Nghanolfan Feddygol Cheriton.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen taflen wybodaeth sy'n cynnwys y wybodaeth uchod, a'r cynlluniau arfaethedig ar gyfer cleifion.

Dilynwch y ddolen hon i gwestiynau cyffredin am drefniadau Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn y dyfodol i gleifion Canolfan Feddygol Cheriton.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.