Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Gofal Sylfaenol Alfred Street, Practis Meddygol Rosedale ac Ymgysylltu â Chleifion Practis Meddygol Waterside

Uno Canolfan Gofal Sylfaenol Stryd Alfred, Practis Meddygol Rosedale a Phractis Meddygol Waterside

Daeth yr ymgysylltiad hwn i ben ar 12 Mawrth 2023.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi derbyn cais gan Bartneriaid Canolfan Gofal Sylfaenol Stryd Alfred, Practis Meddygol Rosedale a Phractis Meddygol Waterside i uno.

Mae partneriaeth yn bodoli ar hyn o bryd rhwng Dr Williams, Dr Perry, Dr Moore a Dr Mellin sydd â thri chontract Gwasanaeth Meddygol Cyffredinol (GMS - General Medical Service) ar wahân ar gyfer y tri safle practis cyffredinol. Mae pob un o'r tair meddygfa ar hyn o bryd yn gweithredu bum diwrnod yr wythnos ac maent yn rhannu gweithlu. Cyflwynwyd achos busnes a baratöwyd gan y practis i'r Bwrdd Iechyd yn nodi cynnig i uno'r tri chontract GMS o dan y bartneriaeth bresennol.

Bydd uno'r contractau GMS yn galluogi'r practisau i ffurfio strwythur busnes mwy, gan wasanaethu poblogaeth cleifion o tua 12,686 dros dri safle meddygaeth teulu a diogelu'r practisau at y dyfodol o ran cynaliadwyedd.

Mae'r practisau ar hyn o bryd yn gweithredu model ffôn yn gyntaf ar yr un diwrnod, gyda'r opsiwn ar gyfer apwyntiadau y gellir eu harchebu ymlaen llaw, ac maent yn elwa ar dîm amlddisgyblaethol mawr.

Ni fydd yr uno arfaethedig yn newid y strwythur clinigol neu reoli presennol ac ni fydd unrhyw ychwanegiadau newydd i'r bartneriaeth. Bydd y tri phractis yn parhau i rannu eu gweithlu ar draws pob safle.

Canolfan Iechyd Waterside fydd y prif safle oherwydd ei lleoliad canolog, hygyrchedd i safleoedd eraill a llwybrau bysiau, tra'n cynnig maes parcio mawr ar gyfer cleifion.  Nid oes unrhyw newid arfaethedig i ffiniau. Mae pob claf wedi'i gofrestru o dan “Meddyg Teulu Cyfun” felly nid oes gofyniad i gleifion gael eu hailddyrannu.

Bydd gwasanaethau'n parhau i gael eu darparu ar bob safle, fel y darperir ar hyn o bryd ar gyfer cleifion presennol. Fodd bynnag, gall cleifion ddewis mynychu meddygfa wahanol i gael mynediad at wasanaethau meddygol os yw'n fwy cyfleus. Ni fydd cleifion yn gweld newidiadau sylweddol i wasanaethau oherwydd yr uno, heblaw am y bwriad i gau cangen Stryd Alfred o 5:30pm bob dydd.

Yn ystod mis Ebrill 2022, cyfathrebodd y practis â chleifion i ofyn am eu barn ac ymateb i unrhyw ymholiadau neu bryderon a godwyd. Derbyniodd pob claf 14+ oed sydd wedi’i gofrestru yn Stryd Alfred, Rosedale a Waterside becynnau gan eu meddygfa yn rhoi gwybod iddynt am y newidiadau arfaethedig a sut y gallai’r newidiadau effeithio arnynt. Anfonwyd dros 11,000 o lythyrau.

Dychwelwyd 541 o holiaduron ac yn gyffredinol roedd yr adborth yn gadarnhaol.

Ymgysylltu â Chleifion a Rhanddeiliaid

Mae Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe wedi argymell y dylai ymgysylltiad 6 wythnos gael ei arwain gan y Bwrdd Iechyd.

Bydd y broses ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid yn dechrau ar 30 Ionawr 2023 ac yn dod i ben ar 12 Mawrth 2023. 

Hoffai’r Bwrdd Iechyd glywed eich barn am y cynnig hwn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau. Dyma sut y gallwch gyflwyno eich adborth:

Delwedd o god QR ar gyfer y ffurflen adborth ar gyfer Canolfan Gofal Sylfaenol Alfred Street, Practis Meddygol Rosedale, ac Ymgysylltu â Chleifion Practis Meddygol Waterside.

Gallwch chi hefyd cael copi o’r ffurflen adborth trwy gysylltu â’r e-bost uchod neu’r rhif ffôn.

Digwyddiad galw heibio

Bydd sesiwn galw heibio cyhoeddus yn cael ei chynnal ddydd Gwener 17 Chwefror 2023, rhwng 2pm a 6pm yng Nghanolfan Gymunedol Castell-nedd, 10-12 Stryd y Berllan, Castell-nedd SA11 1DU.

Dilynwch y ddolen hon i weld poster dwyieithog gyda gwybodaeth am y sesiwn galw heibio i drafod uno Meddygfeydd Rosedale, Stryd Alfred a Waterside.

Dolenni defnyddiol

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen llythyr at bob claf yng Nghanolfan Gofal Sylfaenol Alfred Street, Practis Meddygol Rosedale a Phractis Meddygol Waterside.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen taflen wybodaeth sy'n cynnwys yr wybodaeth uchod am yr uno arfaethedig rhwng Canolfan Gofal Sylfaenol Alfred Street, Practis Meddygol Rosedale a Phractis Meddygol Waterside.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen cwestiynau cyffredin am y bwriad i uno Canolfan Gofal Sylfaenol Alfred Street, Practis Meddygol Rosedale a Phractis Meddygol Waterside.

Diolch am eich cymorth, rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych chi.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.