Crëwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (PABM gynt) ar Ebrill 1, 2019 ar ôl i’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drosglwyddo o PABM i Fwrdd Iechyd Prifysgol newydd Cwm Taf Morgannwg.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cwmpasu poblogaeth o tua 390,000 yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe ac mae gennym gyllideb o tua £1bn. Mae'r bwrdd iechyd yn cyflogi tua 12,500 o staff.
Mae ganddo dri ysbyty mawr sy'n darparu ystod o wasanaethau: Treforys a Singleton yn Abertawe, ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Maglan, Port Talbot.
Mae gennym hefyd ysbyty cymunedol a chanolfannau adnoddau gofal sylfaenol sy’n darparu gwasanaethau clinigol y tu allan i’r prif ysbytai.
Mae contractwyr annibynnol gofal sylfaenol yn chwarae rhan hanfodol yng ngofal ein poblogaeth ac mae’r bwrdd iechyd yn comisiynu gwasanaethau gan feddygon teulu , optegwyr , fferyllwyr a deintyddion ar draws yr ardal.
Mae gennym 51 o bractisau meddygon teulu yn ardal ein bwrdd iechyd, 72 o bractisau deintyddol gan gynnwys orthodeintyddion, 32 o bractisau optometreg a 92 o fferyllfeydd cymunedol.
Darperir gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.
Mae Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys yn gwasanaethu nid yn unig de a chanolbarth Cymru, ond de orllewin Lloegr. Mae Treforys hefyd yn darparu un o ddau wasanaeth llawdriniaeth gardiaidd yng Nghymru.
Roedd gwasanaethau arbenigol eraill a ddarparwyd gan y bwrdd iechyd yn cynnwys gwefus a thaflod hollt, arennol, ffrwythlondeb a bariatrig (gordewdra).
Darperir gwasanaethau iechyd meddwl fforensig i gymuned ehangach sy'n ymestyn ar draws De Cymru gyfan.
Mae'r bwrdd iechyd yn rhan o Gydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH), sy'n bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe.
Mae ARCH yn brosiect cydweithio unigryw gyda'r nod o wella iechyd, cyfoeth a lles de orllewin Cymru.
Cadeirydd: Emma Woollett
Prif Weithredwr Dros Dro: Dr Richard Evans
|
Cyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad Cleifion Dros Dro: Gareth Howells
Cyfarwyddwr Dros Dro Nyrsio a Phrofiad Cleifion: Hazel Powell
Dirprwy Brif Weithredwr Dros Dro a Chyfarwyddwr Cyllid: Darren Griffiths
Cyfarwyddwyr Meddygol Dros Dro: Dr Anjula Mehta and Dr Raj Krishnan
Cyfarwyddwr Strategaeth Dros Dro: Nerissa Vaughan
Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd: Keith Reid
Cyfarwyddwr Dros Dro y Gweithlu a DS: Sarah Jenkins
Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd: Christine Morrell
Cyfarwyddwr Digidol: Matt John
Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu: Richard Thomas
Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol ac Ysgrifennydd y Bwrdd: Hazel Lloyd
Stephen Spill
Jackie Davies
Tom Crick
Reena Owen
Nuria Zolle
Keith Lloyd
Patricia Price
Anne-Louise Ferguson MBE
Nicola Matthews
Jean Church
Andrew Jarrett
Judith Vincent
Andrew Griffiths
Cyfarwyddwr: Brian Owens
Cyfarwyddwr Nyrsio: Sian Passey
Cyfarwyddwr Meddygol: Ceri Todd
Cyfarwyddwr Deintyddol: Karl Bishop
Cyfarwyddwr: Janet Williams
Cyfarwyddwr Nyrsio: Stephen Jones
Cyfarwyddwr Meddygol: Richard Maggs
Cyfarwyddwr: Sue Moore
Cyfarwyddwr Nyrsio: Ceri Matthews
Cyfarwyddwr Meddygol: Mark Ramsey
Cyfarwyddwr: Ceri Gimblett
Cyfarwyddwr Nyrsio: Sharron Price
Cyfarwyddwr Meddygol: Mr Dougie Russell
Cyfarwyddwr: Ceri Gimblett
Cyfarwyddwr Nyrsio: Sharron Price
Cyfarwyddwr Meddygol: Dr Martin Bevan
Mae ein pencadlys wedi’i leoli yn:
Pencadlys Bae Abertawe
1 Porthfa Talbot,
Parc Ynni Baglan,
Baglan,
Port Talbot,
SA12 7BR
Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt y bwrdd iechyd a'n hysbytai ar y dudalen hon.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.