Neidio i'r prif gynnwy

Iaith Gymraeg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu gwasanaeth a gwybodaeth ddwyieithog i ddefnyddwyr gwasanaethau oll. Lle bynnag y bo modd, dylai defnyddwyr gwasanaethau gael eu triniaeth a gofal wedi’u cynnal yn iaith eu dewis.

Mae Tîm Gwasanaethau Iaith Gymraeg yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac yn cefnogi'r Bwrdd Iechyd i weithredu'n ddwyieithog. Mae ein gwaith yn cynnwys cefnogi adrannau i ddatblygu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, darparu gwasanaeth cyfieithu a sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg.

Mae Safonau’r Iaith Gymraeg wedi disodli Cynllun yr Iaith Gymraeg

Dilynwch y ddolen hon i weld Rheoliadau Safonau’r Gymraeg

Dilynwch y ddolen hon i weld yr Hysbysiad Cydymffurfio - Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Safonau’r Iaith Gymraeg

Mae Safonau’r Iaith Gymraeg yn gyfres o ofynion statudol sy'n berthnasol i'r Bwrdd Iechyd. Maent yn nodi'n glir ein cyfrifoldebau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog i gleifion a'r cyhoedd.

Mae 121 o Safonau i gyd, a rennir yn 4 prif faes cydymffurfio.

Safonau Cyflenwi Gwasanaethau 

Mae'r safonau hyn yn nodi gofynion penodol y Bwrdd Iechyd wrth ddelio â'r cyhoedd. Gan gynnwys pan fyddwn yn delio â gohebiaeth, galwadau ffôn, cyfarfodydd, digwyddiadau a sianeli cyfathrebu allanol.

Safonau Llunio Polisi

Mae'r Safonau hyn yn nodi'r hyn y dylem ei ystyried wrth ddatblygu unrhyw bolisi, protocol neu gynllun newydd.

Safonau Gweithredol

Mae'r rhain yn nodi sut rydym ni'n defnyddio'r Gymraeg o fewn prosesau mewnol.

Safonau Cadw Cofnodion

Mae'r rhain yn ymwneud â'n tystiolaeth wrth gydymffurfio â'r Safonau.

Mae pawb sy'n gweithio i'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gydymffurfio â'r Safonau.

Dilynwch y ddolen hon i weld Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2019-2020

Dilynwch y ddolen hon i weld Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2020-2021

Dilynwch y ddolen hon i weld Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2021-2022

Dilynwch y ddolen hon i weld Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2022-2023

Ymgynghoriadau Clinigol

Mae’n ofynnol i ni gyhoeddi cynllun 5 mlynedd yn amlinellu sut y byddwn yn cynyddu ein gallu i gynnig cynnal ymgynghoriadau clinigol yn Gymraeg. Mae ein cynllun ar gyfer y cyfnod Rhagfyr 2024 – Tachwedd 2029 yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Yn y cyfamser, rydym wedi llunio cynllun interim sy’n amlinellu’r camau gweithredu a fydd yn cael eu cymryd hyd at fis Tachwedd 2024.

Dilynwch y ddolen hon i weld ein Cynllun Ymgynghori Clinigol Iaith Gymraeg ar gyfer 2024.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:

Tîm Gwasanaethau Iaith Gymraeg, Pencadlys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, 1 Porthfa Talbot, Port Talbot, SA12 7BR.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.