Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Marwoldeb

Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi manylion am gyfraddau marwolaethau a dangosyddion poblogaeth cysylltiedig eraill ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae'r cynnydd tymor byr a welwyd yn gynnar yn 2020 yn debygol o fod o ganlyniad i gleifion yn cael eu heintio â COVID-19, ond mae'n rhy gynnar i benderfynu ar achos y newidiadau hyn.

Noder y trosglwyddwyd y cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg o 1 Ebrill 2019. Yng ngoleuni'r newid hwn i gyfrifoldebau Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, mae enw'r sefydliad wedi newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.   Mae’r data yn y cyhoeddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth hanesyddol cyn 1 Ebrill 2019.  O ganlyniad, bydd yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a fydd yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr. 

I ddarllen Adroddiad Gwybodaeth Marwolaethau llawn BIPBA ar gyfer mis Rhagfyr 2023, dilynwch y ddolen hon.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.