Gwybodaeth Marwoldeb

Diogelwch y Claf a Gwella Ansawdd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am roi pwyslais ar ansawdd a diogelwch yn ei wasanaeth. Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos sut mae marwoldeb a disgwyliad oes yn cael eu mesur a’u craffu.

Un o elfennau allweddol ein rhaglen Gwella Ansawdd yw dadansoddi a deall yr holl wybodaeth sydd gennym ar gael am bobl sy’n marw yn ein hysbytai.

Mae dros hanner marwolaethau’r bobl yn ein cymunedau yn digwydd yn yr ysbyty, gan fwyaf oherwydd bod pobl sydd yn nesáu at derfyn eu bywydau yn dod i’r ysbyty yn ystod eu dyddiau olaf.

Bu farw dros 3,000 o bobl mewn ysbyty yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot yn 2017, gan gyfrif am 51% o’r holl farwolaethau. Yn ychwaneg, bu farw 362 o bobl yn ein hosbisau. Digwyddodd 57.3% o’r holl farwolaethau mewn ysbytai neu hosbisau PABM.

Er hynny, rydym yn ymwybodol fod pobl mewn rhai achosion wedi marw yn yr ysbyty ble fuasai efallai wedi bod yn well iddynt i fedru marw yn eu cartref, mewn amgylchedd cyfarwydd.

Ar gyfer y rheswm yma, rydym yn cynorthwyo Llwybrau Gofal i’w defnyddio ar ddiwedd bywyd sy’n galluogi mwy o bobl i gael y dewis i farw yn eu cartref, os mai dyna yw eu dymuniad.

Profiad y Claf

Cesglir profiad y claf mewn ardaloedd 376 ar draws Bae Abertawe. Gall rifau’r casgliadau fod rhwng 850 i 1,000 yr wythnos. 

Mae’r adran profiad y claf yn cofnodi ac yn adrodd y nifer o ardaloedd ward sy’n darparu adborth o bob un o’r pedwar prif safle ysbyty.

Bydd pob un o’r Unedau Gyflenwi Gwasanaeth yn derbyn adborth manwl misol sy’n adnabod y themâu ac yn datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer gwelliant ar lefel yr Uned Datblygu Cynaliadwy.

Derbyniodd y system profiad cleifion teulu ffrindiau a theuluoedd 4,141 o ymatebion yn ystod mis Mawrth gyda 54 o bobl yn gwrthod ateb y cwestiwn hynod o debygol/tebygol. Dywedodd 95% o bobl eu bod yn hynod o debygol/tebygol i awgrymu’r gwasanaethi i deuluoedd neu deulu oedd angen gofal neu driniaeth debyg.

Derbyniodd y system profiad cleifion teulu a ffrindiau a theuluoedd 7,150 o ymatebion ar y cyfan dros fisoedd Ebrill a Mai 2019 ble gwrthododd 63 o bobl i ateb y cwestiwn hynod o debygol/tebygol. Dywedodd 96% o bobl eu bod yn hynod o debygol/tebygol i argymell y gwasanaeth i ffrindiau a theulu oedd angen gofal neu driniaeth debyg.

Derbyniodd PABM 198 o ymatebion i’r Arolwg Profiad Cleifion Cymru Gyfan yn ystod mis Mawrth. Derbyniodd Cyfathrebu 92%, Glendid 92%, Urddas 96%, Preifatrwydd 92% a’r Boddhad ar y Cyfan oedd 89%.

Derbyniodd Bae Abertawe 198 o ymatebion i’r Arolwg Profiad Cleifion Cymru Gyfan yn ystod misoedd Ebrill a Mai. Derbyniodd Cyfathrebu 97%, Glendid 91%, Urddas 97%, Preifatrwydd 97% a’r Boddhad ar y Cyfan oedd 87%.

Ymgyrch Codi a Mynd / Dod i ben â Pharlys Pyjamas

Mae ysbytai Treforys a Thywysoges Cymru wedi bod yn rhagweithiol wrth hybu cleifion i fod mor symudol ac annibynnol ag yn bosibl tra maent yn yr ysbyty. Mae deg dydd o orffwys yn y gwely ar gyfer claf oedrannus yn medru heneiddio eu cyhyrau gan ffactor o 10 mlynedd, sy’n golygu nad yw rhai yn medru cerdded. Er mwyn osgoi hyn, anelwyd y ddau ymgyrch, Codi a Mynd a Dod i ben â Pharlys Pyjamas, at hybu cleifion i godi o’u gwely, gwisgo yn eu dillad eu hunain a chadw i symud, fel eu bod yn medru cadw eu symudedd ac yn llai tebygol o orfod mynd i mewn i gartref gofal ar ôl iddynt adael yr ysbyty.

Peidiwch â Baglu dros eich Sliperi

Rhedodd y bwrdd iechyd ymgyrch Peidiwch â Baglu dros eich Sliperi yn ddiweddar er mwyn roi gwybod i’r cyhoedd am y perygl o brynu sliperi sy’n llac neu ddim yn ffitio’n iawn, a sut y gall hyn arwain at gwympiadau. Derbyniwyd mwy na 4,000 o bobl dros 75 mlwydd oed i ysbytai PABM ar ôl cael cwymp, a sliperi llac oedd ar fai mewn rhai achosion. Yn anffodus, cwympiadau yw’r prif achos o anafiadau a marwolaethau oherwydd anafiadau ar gyfer pobl hŷn.

Amserwyd yr ymgyrch i gydweddu â siopa Nadolig, a pherthnasau yn prynu sliperi ar gyfer perthnasau oedrannus fel anrhegion. Rhoddodd gyngor am y math cywir o sliper i wella sefydlogrwydd pobl hŷn.

Patients Know Best

Mae darpariaeth porth cleifion yn rhan allweddol o strategaeth ddigidol y Bwrdd Iechyd a Cenedlaethol ac yn alluogwr ar gyfer cyflenwad Cymru Iachach, gan rymuso cleifion gyda’u cofnod ar-lein eu hunain wedi ei reoli gan y claf, i gynnal eu hiechyd â’u hunan-les. Aeth PKB yn fyw ar 10 Gorffennaf 2018 yn Ysbyty Tywysoges Cymru i ddechrau ac yn awr rydym wedi ei estyn i Ysbytai Treforys, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot. 

Bae Abertawe yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i gynnig PKB i gleifion, sydd yn bresennol yn galluogi cleifion i gael mynediad i’w canlyniadau patholeg eu hunain. Mae gwaith datblygu wedi ei ddechrau i ddanfon copi o ddogfennau a digwyddiadau apwyntiad clinig BIPBA i gofnod PKB y claf.

Mae BIPBA yn awr yn fyw mewn 12 gwasanaeth gyda 848 o gleifion yn cofrestru ar hyd Bae Abertawe, gan gynnwys Ysbyty Tywysoges Cymru.

Yn ogystal â chael mynediad 24/7 i’w cofnodion, mae cleifion yn awr yn gallu dewis pwy y maent eisiau i weld y wybodaeth, a gweithio llawer yn agosach ac yn awr gyda chlinigwyr i reoli eu gofal yn y dyfodol fel tîm. Gellir creu cynlluniau gofal yn ddigidol gyda mewnbwn gan gleifion a chlinigwyr, ac mae fideos a chynnwys cyfryngau eraill i helpu cleifion i ddeall eu cyflwr yn well a rheoli eu gofal hefyd ar gael.

Gan ei wneud yn symlach i gleifion i ddewis pwy a all weld eu gwybodaeth, mae cleifion yn medru ei rannu’n hawdd gydag asiantaethau neu weithwyr proffesiynol gofal iechyd, gan ei wneud yn haws ar gyfer gofal ar draws ffiniau neu rhwng mwy nag un asiantaeth. Gallant hefyd rannu’r wybodaeth gyda pherthnasau a gofalwyr.

Fel esiampl o ble mae buddion wedi eu cyflwyno drwy gyflwyniad PKB, mae’r tîm dermatoleg yn ysbyty Singleton yn defnyddio PKB i gydweithio’n agos gyda’r cleifion systemig sydd angen monitro gwaed rheolaidd. Byddai pob un o’r cleifion yma fel arfer yn dod i’r ysbyty bob 12 wythnos ar gyfer apwyntiad cleifion allanol. Gyda chyflwyniad PKB gellir defnyddio’r dull rhith yma i adolygu cleifion heb fod angen mynychu apwyntiad clinig a bydd yn galluogi’r tîm i ryddhau 3 slot apwyntiad y flwyddyn ar gyfer bob claf. Gellir rhoi’r slotiau yma i gleifion sydd angen apwyntiad wyneb yn wyneb.  

Sgrym Diogelwch Cleifion

Mae system dechnoleg newydd yn rhyddhau rheolwyr a chlinigwyr yn Ysbyty Treforys rhag gorfod gwneud oriau o waith mathemateg - gan eu rhyddhau i ganolbwyntio ar ofal cleifion mwy diogel yn lle hynny.

Sgrin fawr sydd wrth galon y Sgrym Diogelwch Cleifion newydd sy’n rhoi trosolwg cyflym o beth sy’n mynd yn ei flaen mewn ysbyty hynod o brysur. Mae gwybodaeth allweddol am gleifion yn cael eu rhyddhau, niferoedd gwelyau, staffio, niferoedd cleifion mewn adran ayb yn cael eu casglu ar ddangosfwrdd electronig, gan roi syniad o’r sefyllfa yn syth i’r staff.

Caiff y sgrin, a leolir yng nghanolfan cydgysylltu’r ysbyty, ei ddiweddaru bob 15 munud, felly mae’n cadw’r rheolwyr gwely ac eraill yn gwbl hysbys. Mae’n cyfuno ffrydiau awtomatig o gynhyrchion electronig eraill megis PAS Cymru a Phorth Clinigol PABM, gyda data yn cael ei fewnbynnu’n uniongyrchol gan wardiau ac adrannau.

Nawr, cynhelir ond un cyfarfod - y Sgrym Diogelwch - bob dydd am 8.30am, a gyda’r holl wybodaeth o’u blaen, mae clinigwyr a rheolwyr yn gallu canolbwyntio ar beth y maent angen ei wneud y dydd hwnnw er mwyn darparu’r gofal mwyaf diogel.

Mae staff o wasanaethau ac adrannau ychwanegol o fewn yr ysbyty yn awr yn medru mynychu – gan hyrwyddo gweithio fel tîm – a gyda llai o gyfarfodydd mae gan bobl hefyd fwy o amser i wneud eu swyddi.

Mae clinigwyr a staff ar draws yr ysbyty yn bwydo data i mewn i’r system Sgrym Diogelwch yn rheolaidd, gan sicrhau ei fod yn gyfoes. Yn sgil hynny, nid ydynt yn cael pobl yn dod atynt sawl gwaith y dydd i ofyn am ffigyrau, gan eu galluogi i ofalu am gleifion heb gael eu tarfu.

Adolygiadau Marwoldeb

Credwn y dylid adolygu pob marwolaeth, os oeddem yn eu disgwyl neu beidio, sy’n digwydd mewn ysbytai fel ein bod yn medru bod yn sicr y darparwyd y gofal gorau posibl i’n cleifion a sicrhau os fod yno broblemau gyda’n gofal fel ein bod yn medru eu hadnabod ac ein bod yn dysgu ganddynt.  Dechreuom ddefnyddio proses adolygu 2 gam yn 2010; yn bresennol mae gofal mwy na 90% o’n cleifion a fu farw yn yr ysbyty yn cael ei adolygu ar draws y Bwrdd Iechyd, gyda rhai o’n hysbytai yn cyrraedd 100% yn rheolaidd ar gyfer cam cyntaf y broses. Mae’r cwestiynau mae meddygon yn gofyn yn eu hateb yng ngham cyntaf yr adolygiad yn awr yr un peth ar draws Cymru (y cwestiynau Adolygu Marwoldeb Cyffredinol) fel ein bod yn medru dysgu gwersi gan brofiadau sefydliadau eraill o fynd i’r afael â’r rhain, yn ogystal â defnyddio ein hadolygiadau ein hunain i’n helpu ni i wella. Bob mis mae rhwng 15 ac 20 adolygiad cam cyntaf yn dangos y byddai adolygiad trylwyr yn ein galluogi ni i ddysgu mwy ac felly adolygir y rhain gan ymgynghorydd. Y nod yw cwblhau’r adolygiadau trylwyr yma o fewn 2 fis o farwolaeth y claf. Rydym yn gweithio gyda Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd eraill yng Nghymru i safoni adolygiadau’r ymgynghorwyr, a mabwysiadu system Cymru Gyfan sengl er mwyn storio a dadansoddi’r wybodaeth rydym yn ei gael o adolygiadau marwoldeb. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddysgu o’r holl broses adolygu marwoldeb yn ei gyfanrwydd.

Mae ein hadolygiadau marwoldeb trylwyr (gan ymgynghorwyr) wedi eu cwblhau yn parhau i ddweud wrthym ni fod problemau cyfathrebu rhwng timau ac unigolion, heintiadau a chwympiadau yw’r prif ardaloedd ble rydym angen cyfeirio ein gwaith gwella. Mae hi’n bwysig i ddweud nad ydym wedi dangos fod y pethau hyn wedi cyfrannu’n uniongyrchol ar farwolaeth y claf. Mae yna lawer o waith yn mynd yn ei flaen yn y bwrdd iechyd yn barod i leihau cwympiadau yn yr ysbyty yn ogystal â heintiadau, yn y gymuned ac yn yr ysbyty, felly rydym yn sicrhau ein bod yn cysylltu darganfyddiadau’r adolygiad marwoldeb gyda’r prosiectau hynny. Rydym yn canolbwyntio ar wella cyfathrebu rhwng timau a staff unigol fel rhan o’n prosiect ehangach i alluogi staff i adnabod cleifion sydd angen cymorth ychwanegol, ac i sicrhau fod staff uwch ar gael yn gyflym.

Yn ychwaneg, rydym hefyd yn monitro ac yn adolygu gwybodaeth arall yn agos, megis data cyfraddau heintiadau, digwyddiadau, pryderon a marwoldeb.

Adolygiad o Ddangosyddion Marwoldeb Ysbyty

Ymgymerwyd adolygiad annibynnol o ddangosyddion marwoldeb ysbyty gan yr Athro Stephen Palmer, athro epidemioleg ym Mhrifysgol Caerdydd, a archwiliodd os oedd marwoldeb wedi ei addasu ar gyfer risg, a ddefnyddir mewn ysbytai ar draws Cymru, yn ddibynadwy a sut yr oedd yn cael ei ddehongli. Darganfu’r adolygiad fod data marwoldeb yn medru bod yn gamarweiniol ac nid yw’n darparu mesur cywir o ansawdd y gofal.

Casgliad yr Athro Palmer oedd nad fod y Mynegai Marwolaethau wedi’i Addasu yn ôl Risg (RAMI) yn fesur ystyrlon o ansawdd yr ysbyty. Credodd fod y broses o adolygu cofnodion meddygol pob claf a fu farw yn yr ysbyty mewn ffordd safonol – system a arloeswyd yng Nghymru – yn darparu ffordd well a mwy trylwyr o asesu diogelwch ac ansawdd gofal mewn ysbytai. (Gweler yr adran ‘Adolygiadau Marwoldeb’ uchod).

Cydnabuwyd gwaith yr Athro Palmer gan Lywodraeth Cymru mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2016 gyda’r casgliad, gan ddilyn rhoi ystod o weithredoedd a argymhellwyd o’r blaen gan yr adolygiad Palmer (2014) ar waith, nid oedd angen cyhoeddi dangosyddion RAMI bellach.

Tra na fydd y dangosyddion yma bellach yn cael eu cyhoeddi, bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i fonitro a chraffu’r holl wybodaeth marwoldeb sydd ar gael ar sail reolaidd er mwyn adnabod ac archwilio unrhyw batrymau anghyffredin neu glystyrau a all fod yn achos pryder.

Gwybodaeth Marwoldeb BI PBA Mehefin 2019